Gofal Arfordir - Denu Cymunedau Arfordirol i gymryd rhan yn y gwaith o Reoli’r Arfordir

Mae Gofal Arfordir yn cynnwys grwpiau gwirfoddol o amgylch arfordiroedd Cymru ac Iwerddon sydd yn mabwysiadu rhan o’u hoff draeth neu ddarn o’r arfordir er mwyn canolbwyntio ar ofalu amdano’n barhaus. Cefnogir y grwpiau gan staff Arfordir Glân sydd yn rhoi cymorth, cyngor a hyfforddiant ac sydd hefyd yn ddolen rhwng y grwpiau a chyrff swyddogol sydd â diddordeb yn yr arfordir.
Derbynia’r grwpiau gofal arfordir grantiau bychain i’w cynorthwyo i glirio eu costau. Mae’r eitemau y gellir talu amdanynt allan o’r grant yn cynnwys yswiriant atebolrwydd, offer casglu sbwriel a lluniaeth ysgafn.
Gall y grwpiau hefyd fwynhau rhwydweithio gyda grwpiau cyffelyb gan rannu eu profiadau a dysgu oddi wrth y naill a’r llall.
Mae Gofal Arfordir yn weithgaredd awyr agored y gall ystod helaeth o bobl ei fwynhau - oedolion, myfyrwyr ysgol a choleg, ynghyd â grwpiau arbennig megis rhai ag anawsterau dysgu.
Derbynia’r grwpiau Lawlyfr Gofal Arfordir sydd yn cynnwys cyfarwyddyd cynhwysfawr ar gychwyn y gwaith, iechyd a diogelwch, arian ar gyfer y grŵp, hyfforddiant, cyhoeddusrwydd, rhifau cyswllt a manylion eraill defnyddiol.
Cynlluniau a Grantiau Gofal Arfordir