Gwobrwyon
Gwobrau Arfordir Glas - cydnabod ansawdd dŵr rhagorol a rheolaeth amgylcheddol gadarn ar y traethau Mae’r Gwobrau Arfordir Glas yn cydnabod traethau sydd yn cwrdd â safonau’r UE ar gyfer ansawdd dŵr ymdrochi, ond sydd hefyd yn cyrraedd safon uchel o ran eu “hamgylchedd naturiol, sydd heb ei ddifetha” Golyga hynny y gall cymeriad arbennig y traeth hwnnw fod yn anghydnaws â lefel yr isadeiledd a rheolaeth ddwys a gysylltir â thraethau mwy trefol, sef y rhai sydd yn draddodiadol yn gyrchfannau gwyliau. Arweinir y Wobr gan yr amcan sydd y tu ôl iddi, sef hybu’r arferion gorau wrth reoli traethau gwledig. Mae hefyd yn pwysleisio gwerth cyfraniad y gymuned yn y gwaith o reoli’r arfordir. Mae’r traethau a enillodd y Wobr Arfordir Glas yn rhai lle mae’r dŵr yn lân a lle mae rheolaeth amgylcheddol gadarn.
Clean Coasts An Taisce Environmental Educational Unit 5a Swift's Alley Francis Street Dulyn 8.
Ffôn: +353 1 400 2221
Ffacs: + 353 1 400 2285
Cadwch Gymru’n Daclus
33-35 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9HB
Ffôn: 02920 256767
Ffacs: 02920 256768